Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 23 Medi 2019

 

Amser:

12.30 - 14.30

 

 

 

Cofnodion:  AC(5)2019(6)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Elin Jones AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Siân Gwenllian AC

Joyce Watson AC

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol

Carys Evans, Pennaeth Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau

Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil

Kevin Davies, Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.1  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

Croesawyd Arwyn Jones, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, i'w gyfarfod cyntaf.

 

</AI2>

<AI3>

1.2  Datgan buddiannau

 

Nid oedd buddiannau i'w datgan.

 

</AI3>

<AI4>

1.3  Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf.

 

</AI4>

<AI5>

2      Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 20-21

 

Trafododd y Comisiynwyr eu cyllideb ddrafft arfaethedig ar gyfer 2020-21 ymhellach wrth baratoi ar gyfer ei gosod ar 1 Hydref fan bellaf.

 

Gwnaethant drafod newidiadau yn y gyllideb weithredol a chyffredinol ynghyd â blaenoriaethau arian prosiect. Gwnaethant nodi hefyd y diwygiadau sy'n ofynnol i gyfrif am y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 newydd – Prydlesi a llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

Trafododd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2020-21, a’i chymeradwyo, yn amodol ar rai mân addasiadau i’r naratif.

 

</AI5>

<AI6>

3      Gosod Ffenestri Newydd yn Nhŷ Hywel

 

Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer gosod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel, sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol, ac rydym yn gweld nifer gynyddol o ddiffygion nad oes modd o’u trwsio.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb, ac y dylid adrodd ar y canlyniad maes o law.

 

</AI6>

<AI7>

4      Diweddariad ar Ddiwygio’r Cynulliad

 

4A -Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - Y Comisiwn Etholiadol

 

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gynigion sy’n ymwneud â’r gwelliannau arfaethedig mewn perthynas ag ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd yn y Bil a diweddariad i’r amserlen ddeddfwriaethol.

 

Gwnaethant drafod model arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol a goblygiadau dulliau gweithredu gwahanol fel y nodwyd yn ei ohebiaeth â'r Pwyllgor Cyllid. Gwnaethant nodi hefyd y byddai angen cydsyniad Gweinidog y Goron yn Llywodraeth y DU ar y gwelliannau arfaethedig ac y byddai angen ei gael ymhell o fewn yr amserlenni arferol er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn cael Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.

 

Cytunodd y Comisiynwyr mai eu ffafriaeth o hyd yw gweld y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y Llywydd yn trafod y mater ymhellach â'r Comisiynwyr i gytuno ar eu hymateb yn ystod Cyfnod 2 ar ôl cael barn y Pwyllgor Cyllid a rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

4A - Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - materion nad ydynt yn gysylltiedig â’r Comisiwn Etholiadol

 

Roedd y Comisiwn wedi gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r posibilrwydd o anghymhwyso staff y Comisiwn rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad, a chyhoeddi gwariant etholiadau'r Cynulliad.

 

Trafododd y Comisiynwyr sut y dylai'r Llywydd ymdrin â'r materion hyn yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2 ar y Bil a hefyd sut i ymateb i ddiwygiadau eraill y gellid eu gosod.

 

Nododd y Comisiynwyr y cynnydd ynghylch cynigion i godi ymwybyddiaeth mewn perthynas â chyflwyno pleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a chroesawyd y newyddion y byddent yn cael rhagor o wybodaeth yn eu cyfarfod nesaf.

 

</AI7>

<AI8>

5      Mynd â busnes y Cynulliad o Gaerdydd

 

Nododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd a chytunwyd y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau ac arweinwyr pleidiau’n amlinellu'r achos ac yn ceisio eu barn am lefel y diddordeb yn y math hwn o waith ymgysylltu.  

 

</AI8>

<AI9>

6      Costau sy’n gysylltiedig â Swyddfeydd Aelodau a ariennir yn ganolog gan y Comisiwn

 

Ar ôl cytuno yn 2018 i geisio sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â chostau yr eir iddynt gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ar wahân i’r rheini y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, trafododd y Comisiynwyr ddata yn ymwneud â gwariant dros gyfnod o 12 mis.

 

Cytunodd y comisiynwyr i siarad â’u grwpiau ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff y costau hyn eu rheoli, gyda’r bwriad o gytuno ar yr argymhellion er mwyn hwyluso’r gwelliant hwn.

 

</AI9>

<AI10>

7      Diweddariad ar Brexit

 

Nododd y Comisiynwyr wybodaeth a roddwyd am baratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â Brexit ar ochr busnes ac ochr gwasanaethau corfforaethol y Comisiwn.

 

</AI10>

<AI11>

8      Ugain mlwyddiant – Gŵyl GWLAD

 

Trafododd a nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Gŵyl GWLAD.

 

</AI11>

<AI12>

9      Papurau i’w nodi:

 

</AI12>

<AI13>

9.1  Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Cafodd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ar benderfyniadau RAD diweddar.

 

</AI13>

<AI14>

9.2  Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd fis Gorffennaf (drafft)

 

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd yn ôl yr arfer.

 

</AI14>

<AI15>

10  Unrhyw fater arall

 

Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr am hysbysiad cynllunio a ddaeth i law yn ymwneud â datblygu llinell sip arfaethedig dros dro ym Mae Caerdydd.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar yr Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>